Nod y wefan hon yw darparu’r holl gefnogaeth sydd ei angen arnoch yn ystod ac ar ôl i chi gwblhau eich cwrs hyfforddiant gyda’r t2 Group.
P’un ai’n gyngor gyrfa, cefnogaeth ychwanegol gyda’ch cymhwyster, hwb i’ch hyder – bydd un o’n anogwyr dysgu penodol yn hapus i helpu!
Ac os yw’n well gennych chi siarad â rhywun yn uniongyrchol, gallwch ddefnyddio’r blwch sgwrsio ar-lein uchod neu rhowch alwad i ni heddiw ar 02920 799 133
Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF)
Mae adran Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF) y wefan yn adnodd ar gyfer pobl mewnol ac allanol i t2. Ei nod yw rhoi manylion am yr hyn mae ADCDF a Chynaladwyedd yn ei olygu, a’ch helpu i feddwl am eich agwedd tuag at yr effaith rydych chi’n ei gael ar y byd.
Beth yw ADCDF?
Mae Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF) yn ymwneud â’r pethau a wnawn ni o ddydd i ddydd. Mae’n ymdrin â phynciau mawr y byd - megis y newid yn yr hinsawdd, masnachu, adnoddau amgylcheddol a gorddefnydd ohonynt, hawliau dynol, gwrthdaro, a democratiaeth - a’r ffordd maen nhw’n effeithio ar ei gilydd ac arnom ni.
Mae’n ymwneud â’r ffordd rydym yn trin y ddaear ac yn trin ein gilydd, waeth pa mor bell i ffwrdd o’n gilydd rydym yn byw. Mae’n ymwneud â’r ffordd rydym yn paratoi ar gyfer y dyfodol. Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae.
Neu, i’w roi yn fwy ffurfiol, mae Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang yn ymwneud â’r canlynol:
Y cysylltiadau rhwng cymdeithas, yr economi a’r amgylchedd, a rhwng ein bywydau’n hunain â bywydau pobl ledled y byd
Anghenion a hawliau’r genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol
Y berthynas rhwng grym, adnoddau a hawliau dynol
Goblygiadau lleol a byd-eang popeth a wnawn ni, a’r camau y gall unigolion a sefydliadau eu cymryd mewn ymateb i broblemau lleol a byd-eang.
Saith Thema ADCDF
Defnyddir saith cysyniad allweddol fel canllawiau i ddatblygu’r gwerthoedd, agweddau, sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sydd ei angen ar gyfer byw’n gynaliadwy.
- Cyfoeth a thlodi
- Hunaniaeth a diwylliant
- Dewisiadau a phenderfyniadau
- Iechyd
- Yr amgylchedd naturiol
- Newid yn yr hinsawdd
- Defnydd a gwastraff
Beth mae Cynaladwyedd yn ei olygu?
Does dim diffiniad cytunedig byd-eang o ystyr cynaladwyedd, ac mae ‘na sawl barn wahanol ar beth yn union yw cynaladwyedd a sut y gellir ei gyflawni.
Mae’r syniad o gynaladwyedd yn deillio o’r cysyniad gwreiddiol o ddatblygu cynaliadwy, a ddaeth yn derm cyffredin yn Uwchgynhadledd y Ddaear gyntaf yn Rio yn 1992..
Fel arfer ystyrir y canlynol fel y diffiniad gwreiddiol o ddatblygu cynaliadwy:
‘Datblygiad’ sy’n cwrdd ag anghenion y presennol heb gyfaddawdu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i gwrdd â’u hanghenion nhw.
Ar ôl edrych trwy’r rhan hon o’r wefan, rydym yn gobeithio y byddwch yn teimlo eich bod yn deall mwy am ADCDF a Chynaladwyedd.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y rhan hon o’n gwefan, gadewch inni wybod drwy e-bostio: sustainability@t2group.co.uk