Nod y wefan hon yw darparu’r holl gefnogaeth sydd ei angen arnoch yn ystod ac ar ôl i chi gwblhau eich cwrs hyfforddiant gyda’r t2 Group.
P’un ai’n gyngor gyrfa, cefnogaeth ychwanegol gyda’ch cymhwyster, hwb i’ch hyder – bydd un o’n anogwyr dysgu penodol yn hapus i helpu!
Ac os yw’n well gennych chi siarad â rhywun yn uniongyrchol, gallwch ddefnyddio’r blwch sgwrsio ar-lein uchod neu rhowch alwad i ni heddiw ar 02920 799 133
Diogelwch a Lles
Mae’r t2 group wedi ymrwymo i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyfforddus yn eich amgylchedd gwaith. Fel cwmni, ni fyddwn yn goddef unrhyw fath o fwlio, aflonyddu neu wahaniaethu. Mae ymddygiad a ystyrir yn aflonyddu’n dod o fewn sbectrwm eang, o jôcs a sylwadau sarhaus i luniau tramgwyddus.
Gall achosion o aflonyddu/harasio gynnwys y canlynol:
- Cael tasgau diystyr neu waith annymunol
- Dioddef sylwadau dilornus
- Cadw gwybodaeth oddi wrthoch chi’n fwriadol
- Gwneud ichi edrych yn wirion yn gyhoeddus
- Tanbrisio’ch cyfraniad – peidio â rhoi clod pan fo’n ddyledus
- Rhywun yn siarad yn nawddoglyd gyda chi
Os ydych chi’n teimlo eich bod yn cael eich harasio neu’ch bwlio ffoniwch 02920 819 527 ar unwaith am sgwrs gyfrinachol.