Ffoniwch ni nawr 02920 799 133

Croeso i adran Fy Anogwr Dysgu ar wefan y t2 Group


Nod y wefan hon yw darparu’r holl gefnogaeth sydd ei angen arnoch yn ystod ac ar ôl i chi gwblhau eich cwrs hyfforddiant gyda’r t2 Group.

P’un ai’n gyngor gyrfa, cefnogaeth ychwanegol gyda’ch cymhwyster, hwb i’ch hyder – bydd un o’n anogwyr dysgu penodol yn hapus i helpu!

Ac os yw’n well gennych chi siarad â rhywun yn uniongyrchol, gallwch ddefnyddio’r blwch sgwrsio ar-lein uchod neu rhowch alwad i ni heddiw ar 02920 799 133

Eich Iechyd

 

Pedwar prif gyngor ar fwyta’n iach

  • H20!! – Yfwch 2 litr o ddŵr y dydd; mae 70% o’r corff yn ddŵr.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich 5 y dydd – bwytewch Fwyd Go Iawn. Ffrwythau, llysiau, grawnfwyd a chigoedd naturiol.
  • Cofiwch fwyta brecwast - mae brecwast yn bwysig, mae’n lleihau’r risg o gael pyliau o or-fwyta’n nes ymlaen yn y dydd.
  • Bwytewch brotein yn ystod pob pryd bwyd a bwytewch nifer o brydau bach yn ystod y dydd.
 

Pedwar prif gyngor ar ymarfer

  • Byddwch yn gyson – dyfal donc a dyr y garreg
  • Newidiwch bethau – peidiwch â dilyn yr un drefn am fisoedd, rhowch sioc i’ch corff
  • Gwyliwch y cloc - peidiwch â hyfforddi am oriau, bydd gor-hyfforddi’n arwain at orflinder a salwch
  • Ddim ar yr un diwrnod – peidiwch byth â chodi pwysau a gwneud ymarfer cardio ar yr un diwrnod
 

Pedwar prif gyngor ar gyrraedd eich targed

  • Paratowch gynllun – beth bynnag yw eich nod, gwnewch dipyn o ymchwil ac mi ddowch chi o hyd i gynllun da fydd yn eich siwtio
  • Mynnwch gymorth – bydd partner hyfforddi’n help i’ch ysgogi a chadw at eich targedau
  • Hunan-ysgogiad – nodwch eich cymhelliant. Beth sy’n eich gyrru? Gofynnwch i chi’ch hun pam eich bod am gadw’n heini
  • Gosodwch derfyn amser - mae’n haws o lawer dal ati os allwch chi weld y golau ar ben arall y twnnel